Canu Taliesin VII
Original Text
Ardỽyre Reget ryssed rieu.
Neu ti rygosteis kyn bỽyf teu.
Gnissynt kat lafnawr a chat vereu.
Gnissynt wyr ydan kylch ỽyaỽr. lleeu
Goỽy gỽyn gỽylein ymathreu
Ny mat vrỽytrỽyt. Ri ny mat geu
Yd ymarmerth gỽledic gỽrth Kymryeu.
Nys gyrr neges y geissaton
Gochaỽn marchaỽc mỽth molut Gỽryon.
O dreic dylaỽ adaỽ doethaỽ don.
Yny doeth vlph yn treis ar y alon.
Hyny doeth Vryen yn edyd yn Aeron.
Ny bu kyfergyryat ny bu gynnỽys.
Talgynaỽt Vryen yrac Powys
Ny bu hyfrỽt brỽt echen gyrrỽys
Hyueid a Gododin a lleu towys.
Deỽr yn enmyned a theith gỽyduỽys
Diueuyl dydỽyn y gỽaet gỽyden
A weles Llỽyuenyd. Udyd kygryn.
Yn eidoed kyhoed yn eil mehyn
Kat yn ryt Alclut Kat ymynuer.
Kat gellaỽr breỽyn. Kat hir eurur.
Kat ymprysc. Katleu kat yn aber
Ioed ydygyfranc adur breuer
Maỽr kat Glutuein gỽeith Pencoet
Llỽyth llithyaỽc cun ar ormant gỽaet.
Atueilaỽ gỽyn gouchyr kyt
Mynan eigyl edyl gỽrthryt.
Lletrud a gyfranc ac vlph yn ryt
Gỽell ganher gỽledic pyr yganet
Y vd Prydein pen perchen broestlaỽn
Y vd. Nyt ymduc dillat na glas na gaỽr
Na choch nac ehoec vyc mor llaỽr.
Nyt ardodes y vordỽyt dros voel maelaỽr
Veirch o genedyl vrych mor greidaỽl.
Haf ydan ayaf ac araf yn llaỽ.
A ryt a rotwyd eu harỽylaỽ.
A gỽest ydan geird ac ymdỽyraỽ.
Ac hyt orffen byt edrywyt kaỽ.
Gofydin goyscub. dyhaỽl am delỽ
Dileỽr am leuuereu.
Neu vi erthycheis yn eis rac hỽyd
Peleidyr ar yscỽyd. Yscỽyt yn llaỽ
Godeu a Reget yn ymdullyaỽ.
Neu vi a weleis ỽr yn buarthaỽ.
Sarff soned virein segidyd laỽ.
Neu vi gogỽn ryfel yd argollaỽr.
Ar meint a gollỽyf y argollaỽr.
Neu vi neu ymgorwỽyth medu medlyn
Gan Hyfeid hyỽr hyỽst dilyn
Neu vi neu yscenhedeis kyscaỽt gỽeithen
Dithrychỽys vy rieu radeu lawen
Gỽacfa gỽlat da. ỽrth Uruỽyn.
Ac yny vallỽyfy hen
Ym dygyn agheu aghen
Ny bydif ym dirwen
Na molỽyf Vryen.